Skip to main content

Debyd Uniongyrchol ar gyfer Rhent Tai

1Eich Manylion 2Manylion yr Ymholiad

Camgymeriadau ar y ffurflen hon

    Llwyddiant!


    Graddiwch eich profiad gan ddefnyddio ein ffurflenni

    Cliciwch ar seren isod i raddio (rhwng 1 a 5)
    Diolch am y sgôr!

    Cofrestrwch ar gyfer Fy Nghyfrif Sir y Fflint i arbed amser a chadw golwg ar eich ymholiadau

    Cofrestrwch Nawr

    Eich Manylion

    Cyfeiriad

    Manylion yr Ymholiad

    Cyfarwyddiadau i’ch Banc/Cymdeithas Adeiladu

    Talwch Ddebydau Uniongyrchol i Gyngor Sir y Fflint o’r cyfrif a nodir yn y cyfarwyddyd hwn os gwelwch yn dda, yn ddarostyngedig i’r trefniadau diogelu a sicrheir gan y Warant Debyd Uniongyrchol.


    .

    Gwarant Debyd Uniongyrchol

    Eich hawliau

    Mae sefydliadau sy’n defnyddio’r Cynllun Debyd Uniongyrchol yn mynd trwy broses wirio ofalus cyn iddynt gael eu hawdurdodi ac maent yn cael eu monitro’n fanwl gan y diwydiant bancio. Caiff effeithlonrwydd a diogelwch y Debyd Uniongyrchol ei fonitro a’i amddiffyn gan eich banc neu gymdeithas adeiladu

    Mae’r Warant Debyd Uniongyrchol yn berthnasol i bob Debyd Uniongyrchol. Mae’n eich amddiffyn yn yr achos prin hwnnw pan fo camgymeriad yn nhaliad eich Debyd Uniongyrchol, er enghraifft os yw taliad wedi ei gymryd ar ddyddiad anghywir, neu os yw'r swm anghywir wedi ei gasglu. Ni ellir ei ddefnyddio i ymdrin ag anghydfod cytundebol rhyngoch chi a’r sefydliad bilio.

    Gwarant Debyd Uniongyrchol

    • Caiff y Warant ei chynnig gan bob banc a chymdeithas adeiladu sy'n derbyn cyfarwyddiadau i dalu Debyd Uniongyrchol.
    • Os oes yna unrhyw newidiadau i swm, dyddiad neu amlder eich Debyd Uniongyrchol, bydd y sefydliad yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw (10 diwrnod gwaith fel arfer) cyn y caiff yr arian ei dynnu o’ch cyfrif neu fel y cytunir fel arall. Os byddwch chi’n gofyn i sefydliad gasglu taliad, cewch gadarnhad o’r swm a’r dyddiad pan fyddwch chi’n gwneud y cais.
    • Os gwneir camgymeriad yn nhaliad eich Debyd Uniongyrchol gan y sefydliad neu eich banc neu gymdeithas adeiladu, mae gennych hawl i gael ad-daliad llawn ac ar unwaith am y swm a dalwyd o’ch banc neu gymdeithas adeiladu
      • Os byddwch yn derbyn ad-daliad na ddylech ei gael, mae’n rhaid i chi ei ad-dalu pan fydd y sefydliad yn gofyn i chi wneud hynny.
    • Gallwch ganslo Debyd Uniongyrchol ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’ch banc neu gymdeithas adeiladu. Efallai y gofynnir am gadarnhad ysgrifenedig. Rhowch wybod i’r sefydliad hefyd os gwelwch yn dda.

    Dewis dyddiad eich taliad

    Nid yw hyn yn ffurfio rhan o’ch cyfarwyddyd i’ch banc/cymdeithas adeiladu ac mae hyn ar gyfer defnydd swyddogol Cyngor Sir y Fflint yn unig.