Beth yw dibenion prosesu eich gwybodaeth bersonol a phwy sy’n ei phrosesu?
Mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu’r wybodaeth hon fel rhan o’n tasg gyhoeddus at y diben penodol fel y nodwyd pan gasglwyd y wybodaeth wreiddiol fel rhan o’r gwasanaeth.
Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i ddarparu ad-daliad i chi o’ch cyfrif dyled gorfforaethol yn unol â Pholisi Dyledion Corfforaethol y Cyngor.
- Manylion amdanoch chi, fel eich enw, cyfeiriad a manylion banc
- Rhif cwsmer/anfoneb
- Rhifau cyswllt a chyfeiriadau e-bost.
Gyda phwy allwn ni rannu eich gwybodaeth?
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda gwasanaethau eraill y Cyngor er mwyn sicrhau bod ein cofnodion yn gywir ac yn gyfredol, i wella safon y gwasanaethau rydym yn eu cynnig.
Efallai y bydd Cyngor Sir y Fflint yn gwirio’r wybodaeth rydych wedi'i darparu, neu wybodaeth amdanoch chi y mae rhywun arall wedi’i darparu, â gwybodaeth arall sydd gennym. Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth amdanoch gan drydydd parti, neu’n rhoi gwybodaeth iddyn nhw er mwyn:
- sicrhau bod y wybodaeth yn gywir
- atal neu ganfod troseddau
- diogelu arian cyhoeddus.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich cofnodion?
Fe fyddwn yn cadw eich data drwy gydol y cyfnod rydych yn rhwymedig i dalu Dyled Gorfforaethol ac am gyfnod o 7 mlynedd ar ôl i'ch rhwymedigaeth i dalu Dyled Gorfforaethol ddod i ben.
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Llywodraethu
Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint.
CH7 6NR
E-bost: dataprotectionofficer@flintshire.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan – https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx
Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.