Bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint at ddibenion penodol rhoi gwybodaeth i chi am raglenni rhianta yn unig.
Mae angen i ni brosesu eich data personol er mwyn cefnogi eich cais am ragor o wybodaeth am y rhaglenni. Mae prosesu’ch data personol yn ‘dasg gyhoeddus', sef un o ofynion yr awdurdod lleol er mwyn hyrwyddo lles pob unigolyn dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a hyrwyddo lles a diogelwch Oedolion a Phlant Diamddiffyn.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich data am 2 flynedd o ddyddiad eich ymholiad.
Os teimlwch chi fod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol ac am eich hawliau chi, darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan - https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx