Eich Manylion
Pwysig, Nodwch
Byddwch yn cael eich atgyfeirio i Borth Talu Civica i wneud eich taliad yn awr.
Ar ôl cwblhau eich taliad a derbyn “Rhif Derbynneb”, cliciwch ar y botwm “Finish”. Mae’r botwm o dan y blwch cyfeiriad e-bost lle gellir gofyn am dderbynneb yn y porth talu.
Os nad ydych yn clicio ar “Finish”, ni fydd Sir y Fflint yn derbyn eich cais..
Codi tâl am wastraff nad yw’n wastraff cartref mewn Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref - Polisi Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth ar gyfer taliadau gwastraff nad ydynt yn y Cartref mewn Canolfannau Ailgylchu Cartrefi.
Bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint fel rhan o'n tasg gyhoeddus at ddibenion penodol gweinyddu a phrosesu eich cofrestriad ar gyfer talu gwastraff nad yw'n gartref.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw gwybodaeth hyd nes y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddisodli + 1 flwyddyn.
Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a'ch hawliau chi, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan. Hysbysiad preifatrwydd
Amodau a Thelerau codi tâl a gwaredu Gwastraff nad yw’n Wastraff y Cartref
- Mae Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn cael eu darparu er mwyn caniatáu preswylwyr Sir y Fflint i waredu ychydig o wastraff domestig ac eitemau i’w hailgylchu (gwastraff ac eitemau i’w hailgylchu o gartref y preswylydd ei hun). Bydd eitemau o wastraff y byddai disgwyl i gartref nodweddiadol eu taflu yn ystod arferion bywyd bob dydd yn cael eu derbyn. Mae gan Gyngor Sir y Fflint rwymedigaethau cyfreithiol i ddarparu cyfleusterau Canolfan Ailgylchu ar gyfer gwastraff y cartref yn unig.
- Derbynnir rhai mathau o wastraff mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref sy’n cael eu cyfrif fel gwastraff nad yw’n wastraff y cartref. Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydnabod bod angen cyfleusterau ar gyfer preswylwyr Sir y Fflint i waredu rhywfaint o wastraff nad yw’n wastraff y cartref, felly codir tâl rhesymol ar gyfer costau cludo, trin a gwaredu’r deunyddiau hyn.
-
Mae angen archebu a thalu ffi ar gyfer yr eitemau canlynol:
- Asbestos £20 y bag (yn cael ei dderbyn ar safle Maes Glas a Bwcle yn unig, uchafswm o 5 bag. Dim ond yn ystod yr wythnos y gellir archebu i waredu’r rhain).
- Teiars £5 fesul teiar (cerbydau domestig a beiciau modur, gan eithrio teiars beic, uchafswm o 4 fesul archeb).
- Olew Moduron £5 fesul ymweliad (uchafswm o 10 litr fesul ymweliad)
- Plastrfwrdd £5 y bag NEU £30 fesul trelar o blastrfwrdd sydd heb ei roi mewn bagiau (Dylai bod y plastrfwrdd yn sych a heb ei gymysgu gyda deunyddiau eraill. Mae bag yn cyfeirio at fag 25 litr safonol y gellir ei godi’n ddiogel gan un person. Mae gan weithredwyr y safle’r hawl i wrthod bagiau gwastraff plastrfwrdd sy’n rhy fawr).
- Dim ond drwy archebu lle y gellir mynd i’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref gyda’r eitemau a restrir uchod. Mae gan staff y safle’r hawl i wrthod gwaredu os na wnaed archeb a thaliad ymlaen llaw.
- Mae’n RHAID cyflwyno rhif cyfeirnod ar y safle er mwyn gallu gwaredu eich gwastraff.
- Mae modd talu ac archebu ar gyfer y deunyddiau a restrwyd drwy dudalen Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref drwy wefan Cyngor Sir y Fflint https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Bins-Recycling-and-Waste/Household-Recycling-Centres/Home.aspx
-
Mae cyfyngiadau o ran gwaredu Asbestos oherwydd ei natur beryglus, mae’r rhain yn cynnwys:
- Cyfyngiad ar faint y gwastraff a ddaw i mewn. Derbynnir asbestos dim ond os yw mewn bagiau dwbl a bod y gwastraff yn ffitio i’r bag coch/clir a ddarperir. Gellir casglu’r bagiau o flaen llaw o Ganolfan Gyswllt.
- Mae cyfyngiadau yn eu lle ar faint o wastraff a ddaw i mewn. Dim ond pum bag coch llawn a dderbynnir mewn un archeb.
- Dim ond un archeb a ganiateir bob blwyddyn.
- Gellir defnyddio sgipiau asbestos yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Maes Glas a Bwcle.
- Dim ond ar ddyddiau’r wythnos y gellir cael gwared ag asbestos.
- Peidiwch â thorri, malu, sandio na drilio asbestos gan fod hynny’n rhyddhau ffibrau llidus i’r aer sy’n berygl os ydych chi’n eu hanadlu.
- Dim ond teiars cerbydau domestig a beiciau modur fydd yn cael eu derbyn ar y safle, ni dderbynnir teiars masnachol nac amaethyddol. Ni fyddwn yn codi tâl am deiars beic.
- Os bydd unrhyw un o’r eitemau a restrir yn cael eu cludo i’r safle mewn fan/trelar neu dryc pic-yp, bydd angen trwydded ddilys ar gyfer archebu lle; mae’n rhaid i’r safle a ddewisir gyd-fynd â’r safle sydd wedi’i nodi ar eich trwydded, oni bai eich bod yn gwaredu Asbestos mewn safle dynodedig.
- Cyhoeddir rhestr o daliadau ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol ar wefan y Cyngor. Mae’r ffi a godir ar gyfer yr eitemau a restrir yn destun adolygiad yn ôl disgresiwn y Cyngor.
- Mae’r eitemau a restrir yn destun adolygiad yn ôl disgresiwn y Cyngor.
- Ni dderbynnir unrhyw wastraff a ystyrir fel gwastraff Masnachol, Diwydiannol neu Fusnes yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Cyngor Sir y Fflint. Mae’r math hwn o wastraff yn cynnwys gwastraff a gynhyrchir gan fasnachwyr, contractwyr neu labrwyr sy’n gweithio ar safleoedd preswyl neu fusnes. Mae hyn yn cynnwys landlordiaid yn gwaredu gwastraff o eiddo rhent, neu wastraff y mae'n rhaid talu i gael gwared ohonynt. Mae’r math hwn o wastraff yn ymofyn “trwydded cludo gwastraff” ac yn destun “Dyletswydd Gofal” ac ni fydd unrhyw un o'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn eu derbyn dan ein hamodau trwydded Amgylcheddol.
- Bydd unrhyw wastraff a gyflwynir i’r safle yn destun archwiliadau rheolaidd gan weithredwyr y safle a/neu unrhyw Swyddog awdurdodedig o’r Awdurdod neu Gorff Rheoleiddio. Mae’n bosibl y bydd gofyn i bobl sy’n ymweld â’r safle agor sachau neu gynwysyddion i wirio’r cynnwys.
- Mae’n rhaid gwahanu a gosod deunyddiau a gyflwynir i’r safle yn y sgip neu’r cynhwysydd cywir. Os yn ansicr, gofynnwch am gyngor gan aelod o staff.
- Rhaid i ddefnyddwyr y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref gydymffurfio â'r cyfarwyddiadau a roddir gan y gweithredwyr ar y safle, cyfraith a chanllawiau iechyd a diogelwch, unrhyw arwyddion, cyfyngiadau cyflymder, a pholisi penodol didoli a gwahanu gwastraff.
- Bydd gan y Cyngor yr hawl i wrthod unrhyw un rhag dod i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref os yw'n amau eu bod wedi mynd yn groes i unrhyw un o'r amodau a amlygwyd o fewn y Polisi Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
- Ni roddir ad-daliad os nad ydych yn mynychu ar yr amser a archebwyd.
- Nid oes unrhyw eithriadau i'r telerau ac amodau hyn.